Gorffennaf 2016

Galwad am wybodaeth – cynigion cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017-18

Mae pwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn galw am wybodaeth i gynorthwyo gyda’r gwaith o graffu ar Gynigion Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017-18. Mae gennym ddiddordeb mewn ymchwilio i’r disgwyliadau o ran cyllideb 2017-18, gan gynnwys parodrwydd ariannol ar gyfer blwyddyn 2017-18 ac effaith cyllideb 2016-17.

Nid ydym yn gwybod ar hyn o bryd beth fydd cynigion y gyllideb ddrafft, gan na fyddant yn cael eu cyhoeddi tan fis Hydref 2016.

Mae’r Pwyllgor Cyllid yn edrych ar gyllideb Llywodraeth Cymru o safbwynt strategol a chyffredinol. Rydym hefyd yn cydweithio â phwyllgorau eraill y Cynulliad i sicrhau y caiff cynigion ar gyfer adrannau neu bortffolios cabinet penodol eu hystyried yn fanwl. Bydd y pwyllgorau'n cynnal sesiynau tystiolaeth penodol gyda'r Ysgrifenyddion Cabinet a'r Gweinidogion perthnasol er mwyn edrych yn fanwl ar yr agweddau ar y gyllideb sydd o fewn eu cylchoedd gwaith hwy, ac wedyn yn cyflwyno adroddiad i’r Pwyllgor Cyllid, gan amlinellu unrhyw bryderon sydd ganddynt.  Gellir cael manylion pellach am Bwyllgorau'r Cynulliad a phroses y gyllideb yn Atodiad 1.

Yn y papur hwn, nodir cwestiynau penodol yn Atodiad 2. Gallwch ateb unrhyw un neu bob un o’r cwestiynau, neu gallwch roi gwybod i ni am eich pryderon a’ch disgwyliadau cyffredinol o ran y gyllideb ddrafft.

Datgelu gwybodaeth

Cofiwch ystyried polisi'r Cynulliad ynghylch datgelu gwybodaeth yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i'r Pwyllgor.  Neu, gellir gwneud cais am gopi caled o'r polisi hwn drwy gysylltu â'r Clerc, Bethan Davies (0300 200 6372 neu seneddcyllid@cynulliad.cymru).


 

Darparu gwybodaeth i'r Pwyllgor

Gwahoddir pawb sydd â diddordeb i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i Glerc y Pwyllgor Cyllid erbyn 21 Medi 2016.

Yn gywir

 

Simon Thomas

Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid

Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu'n Saesneg.

We welcome correspondence in Welsh or English.

Atodiad 1 - Gwybodaeth gefndir

Pwy ydyn ni?

Mae’r Pwyllgor Cyllid yn un o bwyllgorau trawsbleidiol Cynulliad Cenedlaethol Cymru sy’n cynnwys Aelodau o bob un o’r pedair plaid wleidyddol a gynrychiolir yn y Cynulliad. 

Nid yw’r Pwyllgor yn rhan o Lywodraeth Cymru.  Yn hytrach, mae'r Pwyllgor yn gyfrifol am adrodd ar gynigion a roddwyd gerbron y Cynulliad gan Weinidogion Cymru sy'n ymwneud â defnyddio adnoddau. 

Pa Bwyllgorau eraill sy’n craffu ar y gyllideb?

Y Pwyllgorau eraill sy’n craffu ar y gyllideb yw:

-     Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

-     Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig

-     Y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu

-     Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau

-     Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau

-     Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon

Beth yw cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru?

Rhaid i gynigion y gyllideb ddrafft gynnwys manylion ynghylch faint o adnoddau y mae Llywodraeth Cymru yn cynnig eu defnyddio yn ystod y flwyddyn ariannol ddilynol a ffigurau dangosol ar gyfer y ddwy flwyddyn ariannol ar ôl hynny. Yn fwy penodol, dylai amlinellu gwybodaeth ynghylch:

 

- Yr adnoddau a gaiff eu defnyddio gan Lywodraeth Cymru, Comisiwn y Cynulliad, yr Archwilydd Cyffredinol ac Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru;

- Incwm sydd i'w gadw gan y sefydliadau hynny (yn hytrach na chael ei ildio i Gronfa Gyfunol Cymru); ac

- Yr arian parod sydd i’w dynnu o Gronfa Gyfunol Cymru gan y sefydliadau hynny.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi darparu dogfen naratif sy’n rhoi eglurhad pellach o’r dyraniadau manwl i adrannau’r Llywodraeth, yn ogystal â chronfeydd wrth gefn a dyraniadau cyffredinol eraill.

Pam nad ydym yn cynnal yr ymgynghoriad hwn ar ôl i gynigion cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru gael eu cyhoeddi?

Ni fydd ymateb i’r ymgynghoriad hwn yn eithrio rhanddeiliaid rhag hefyd darparu gwybodaeth, tystiolaeth, pryderon ac awgrymiadau ynghylch meysydd craffu posibl i bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar ôl i’r cynigion ynghylch cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru gael eu cyhoeddi (ar 18 Hydref 2016).

Fodd bynnag, fel arfer, bydd pwyllgorau yn dechrau craffu ar waith Ysgrifenyddion y Cabinet a Gweinidogion ynghylch cynnwys y gyllideb ddrafft wythnos neu bythefnos ar ôl iddi gael ei chyhoeddi, gyda’r bwriad o gyflwyno eu casgliadau i’r Pwyllgor Cyllid ddiwedd mis Hydref. Mae’n ofynnol i’r Pwyllgor Cyllid gyflwyno ei adroddiad ei hun ar y gyllideb ddrafft erbyn 29 Tachwedd 2016.

Golyga hyn fod yr amser sydd ar gael i randdeiliaid leisio eu pryderon i’r pwyllgorau yn brin fel arfer (wythnos neu ddwy). Wrth ymgynghori yn awr, gobeithiwn y bydd gan randdeiliaid fwy o amser i ystyried effaith bosibl y gyllideb.

Fodd bynnag, ar ôl cyhoeddi'r Gyllideb ddrafft, ein nod yw cynnal sgwrs ynghylch y gyllideb ddrafft - os hoffech gymryd rhan, e-bostiwch seneddcyllid@cynulliad.cymru.

 


 

Atodiad 2

Cwestiynau'r ymgynghoriad

1.   Beth, yn eich barn chi, fu effaith cyllideb 2016-17 Llywodraeth Cymru?

2.   Pa ddisgwyliadau sydd gennych o gynigion cyllideb ddrafft 2017-18?

3.   Pa mor barod yn ariannol yw’ch sefydliad ar gyfer blwyddyn ariannol 2017-18, a pha mor gadarn yw’ch gallu i gynllunio ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod?

4.   Hoffai'r Pwyllgor ganolbwyntio ar nifer o feysydd penodol wrth graffu ar y gyllideb. A oes gennych unrhyw sylwadau penodol o ran y meysydd a nodir isod?

-       Dull gweithredu o ran gwariant ataliol, a sut y cynrychiolir hwn wrth ddyrannu adnoddau (Gwariant ataliol = gwariant sy'n canolbwyntio ar atal problemau a lliniaru'r galw am wasanaethau yn y dyfodol, drwy ymyrryd yn gynnar)

-       Polisïau Llywodraeth Cymru i leihau tlodi, lliniaru effeithiau diwygio lles a pharatoi ar gyfer poblogaeth sy'n heneiddio

-       Cynaliadwyedd gwasanaethau cyhoeddus, arloesi a thrawsnewid gwasanaethau

-       Trefniadau ariannol byrddau iechyd lleol

-       Paratoi i'r DU adael yr UE

-       Cyllidebu carbon isel a pharatoi ar gyfer Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol

-       Paratoi ar gyfer effaith y datganoli pellach sy'n rhan o Fil Cymru

-       Effaith rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru ac a oes digon o adnoddau ar gyfer ei rhoi ar waith

-       Craffu ar y Gymraeg, cydraddoldeb a chynaliadwyedd

 

5.   Mae Llywodraeth flaenorol Cymru wedi nodi y bydd cyllideb ddrafft 2017-18 wedi'i halinio â dangosyddion cenedlaethol Cymru. 

-       Pa ddangosyddion cenedlaethol a lleol ychwanegol fyddech chi'n hoffi eu gweld, os hoffech weld unrhyw rai ychwanegol o gwbl, er mwyn cefnogi symud tuag at fwy o ffocws ar wariant ataliol?

-       Pa ddangosyddion cenedlaethol a lleol ychwanegol fyddech chi'n hoffi eu gweld, os hoffech weld unrhyw rai ychwanegol o gwbl, er mwyn symud tuag at fwy o ffocws ar leihau neu ddileu tlodi?

6.   Pa ymrwymiadau a blaenoriaethau gwario yr hoffech chi eu gweld yng nghyllideb ddrafft 2017-18 er mwyn sicrhau y gwneir cynnydd ar wariant ataliol ac, yn arbennig, ym maes iechyd a gwasanaethau cymdeithasol?

7.   Pa ymrwymiadau a blaenoriaethau gwario yr hoffech chi eu gweld yng nghyllideb ddrafft 2017-18 er mwyn sicrhau y gwneir cynnydd ar leihau tlodi a pharatoi ar gyfer poblogaeth sy'n heneiddio?

8.   A ydych chi'n teimlo bod y dyraniadau a wneir gan Lywodraeth Cymru yn seiliedig ar ddigon o dystiolaeth?

9.   Pa newidiadau i ddyraniadau a blaenoriaethau ydych yn teimlo sydd eu hangen yng nghyllideb ddrafft 2017-18 a'r blynyddoedd dilynol o ganlyniad i'r bleidlais i adael yr UE?

 

10.                Pa waith cynllunio hirdymor sy'n cael ei wneud i gyflawni strategaethau gwariant ataliol yn llawn a sut fyddech yn cynllunio ar gyfer hynny o fewn cyfnodau cyllideb tymor byr?
 

11.                Pa dystiolaeth sylfaenol a ddefnyddir i fesur canlyniadau ataliol?

12.                Sut y gellir annog enghreifftiau da o drawsnewid gwasanaethau ac arloesi a'u rhannu'n genedlaethol ledled y prif asiantaethau, a beth yw rôl Llywodraeth Cymru yn hynny?